Telerau ac amodau cofrestru am gyfrif Hunanwasanaeth staff Cyngor Gwynedd

  1. Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy''n cael defnyddio''r system – mae ceisio mynd i mewn i''r system heb awdurdod neu geisio mynediad at ddata yn y system heb awdurdod yn drosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
  2. Os nad ydych yn sicr fod gennych hawl defnyddio''r gwasanaeth, allgofnodwch yn syth.
  3. Os na fyddwch yn llwyddo i fewngofnodi i''ch cyfrif yn dilyn pum ymgais byddwch yn cael eich cloi allan o''r system am gyfnod o 30 munud.
  4. Byddwn yn trin eich holl wybodaeth yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data. I gael gwybodaeth am eich hawliau a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, ewch i wefan www.gwynedd.llyw.cymru/preifatrwydd
  5. Pan fyddwch yn ymweld â''r system am y tro cyntaf byddwch yn cael neges yn dweud bod yn cwcis yn cael eu defnyddio ar y system. Efallai na fydd rhannau o''r system yn gweithio''n iawn os ydych yn dewis gwrthod cwcis.

    Mae''r wybodaeth isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:

    Enw Pwrpas
    AspNet.TwoFactorCookie Sefydlu fframwaith i adnabod y defnyddiwr.
    Hunanwasanaeth.ApplicationCookie Cofio eich manylion wrth i chi symud drwy''r system.
    RequestVerificationToken Atal mynediad ac ymosodiad o safleoedd anawdurdodedig.
  6. Ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i gwmnïau, busnesau nac unigolion trydydd parti, oni bai fod y gyfraith yn mynnu hynny.
  7. Mae Cyngor Gwynedd yn cadw''r hawl i ddiddymu eich cyfrif ar unrhyw adeg os yw''n amau eich bod yn camddefnyddio''r cyfrif.
  8. Mae Cyngor Gwynedd yn cadw''r hawl i''ch e-bostio ynghylch problemau yn ymwneud â''ch cyfrif / i roi gwybod i chi am newidiadau i''ch cyfrif, e.e. gorfod ailosod cyfrinair.
  9. Mae cofrestru am gyfrif yn golygu eich bod yn cytuno â''r telerau ac amodau hyn.
Cofrestru